Oakwood theme park

Polisi Preifatrwydd







Mae’r wefan hon yn eiddo i Oakwood Leisure Ltd sydd wedi cofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data ac sy’n ymroddedig i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei barchu a’i ddiogelu bob amser. Yn dilyn ceir rhestr o’n dulliau o gasglu, defnyddio a storio gwybodaeth amdanoch a fyddai’n cael ei darparu gennych wrth ddefnyddio’r wefan hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich gwybodaeth bersonol neu os hoffech i ni dynnu’ch enw o’n cronfa ddata, mae croeso i chi gysylltu â ni yn:

Yr Adran Farchnata
Parc Thema Oakwood
Canaston Bridge
Arberth
Sir Benfro
SA67 8DE
Ffôn: 01834 891373
E-bost: marketing@oakwoodthemepark.co.uk

Casglu data

Yr unig wybodaeth am gwsmeriaid rydym yn ei chasglu o’n gwefan yw’r wybodaeth a gyflwynwyd gan yr ymwelydd â’r safle at y dibenion canlynol; archebu tocynnau, cofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr, gofyn am lyfryn, cynnig mewn cystadleuaeth, cyflwyno ffotograffau ac adolygiadau, sicrhau neu ddefnyddio talebau hyrwyddo, cwblhau arolygon (ar-lein a’r rheiny a gasglwyd/gwblhawyd yn y parc) a darparu adborth (yn Cysylltiadau Ymwelwyr a thrwy lythyron a anfonir atom/ffurflenni adborth a ddychwelir).

Efallai na fyddwch yn medru defnyddio rhai gwasanaethau ar ein gwefan os nad ydych yn fodlon darparu gwybodaeth bersonol, er enghraifft, wrth archebu tocynnau neu gynnig mewn cystadleuaeth ac ati.

Carem hefyd roi gwybodaeth i chi am reidiau newydd, digwyddiadau, hyrwyddiadau, cynigion arbennig a gwybodaeth arall sy’n ymwneud â Pharc Thema Oakwood y teimlwn a fyddai o ddiddordeb i chi, ond byddwn yn gwneud hynny dim ond lle rydych wedi rhoi caniatâd penodol i ni ddefnyddio’ch manylion at ddibenion ychwanegol o’r fath. Ar amrywiol adegau wrth ddefnyddio’r wefan hon, rhoddir cyfle i chi ddewis rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’ch manylion at y dibenion ychwanegol hyn.

Byddwn yn mewnbynnu’r wybodaeth a roddir gan unrhyw un sy’n rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’u gwybodaeth at y dibenion marchnata a nodwyd uchod i’n cronfa ddata marchnata uniongyrchol, a gedwir ar gyfrifiaduron mewnol, wedi’i diogelu gan gyfrinair.

Byddwn yn cadw gwybodaeth am gwsmeriaid yn ein cronfa ddata marchnata uniongyrchol am gyfnod rhesymol neu gyhyd ag sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu hyd nes i chi ofyn i ni ei dileu. Pryd bynnag y byddwn yn dileu gwybodaeth bersonol, byddwn yn gofalu ein bod yn sicrhau ei bod yn cael ei gwaredu’n ddiogel.

Marchnata Uniongyrchol

Os ydych wedi dewis derbyn gwybodaeth farchnata oddi wrthym byddwn yn defnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd i anfon gwybodaeth am hyrwyddiadau, digwyddiadau a gwasanaethau sy’n ymwneud â Pharc Thema Oakwood, yn y dull(iau) cyfathrebu a ddewiswyd gennych yn unig (e.e. e-bost, post neu ffôn).

Os byddwch yn dewis caniatáu i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth at ddibenion marchnata uniongyrchol ac wedyn yn penderfynu am unrhyw reswm nad ydych am dderbyn gwybodaeth oddi wrthym bellach, cysylltwch â’r Adran Farchnata (manylion cyswllt ar frig y dudalen) a bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu o’n cronfa ddata marchnata uniongyrchol.

Ni fyddwn yn trosglwyddo, datgelu, gwerthu na dosbarthu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd parti, oni bai ein bod yn derbyn eich caniatâd i wneud hynny, neu’n gorfod gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Serch hynny, gallwn, o bryd i’w gilydd, ryddhau eich gwybodaeth i’n hasiantau marchnata penodedig, sydd â’r gallu i ddefnyddio’ch manylion at ddibenion darparu deunydd marchnata ynghylch digwyddiadau ac ati yn unig. Ni all ein hasiantau marchnata brosesu gwybodaeth bersonol a ddarparwn ar eu cyfer ond ar ein rhan ni, ac yn unol â’n cyfarwyddiadau, ac mae’n ofynnol bod ganddynt fesurau diogeledd digonol yn eu lle o ran unrhyw wybodaeth bersonol y maent yn ei chadw ar ein rhan.

Dolenni i Wefannau Eraill

Rydym yn arddangos dolenni i wefannau eraill i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol arall i chi. Nid yw’r safleoedd hyn o fewn ein rheolaeth ac felly ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd gwybodaeth rydych yn ei darparu wrth ymweld â gwefannau o’r fath. Dylech fod yn ofalus wrth ddefnyddio safleoedd o’r fath ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw. Byddwn bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod y dolenni hyn yn amlwg yn rhai allanol, fel eich bod yn sylweddoli nad ydych bellach yn edrych ar ein gwefan ni.

Diogeledd

Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad heb awdurdod i’ch gwybodaeth neu ei datgelu, rydym wedi gosod gweithdrefnau electronig rheoli ymarferol priodol yn eu lle i ddiogelu ac amddiffyn gwybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein. Rydym yn defnyddio amgryptio wrth gasglu neu drosglwyddo data sensitif megis gwybodaeth am gardiau credyd/debyd.

Cookies

Rydym yn defnyddio cookies i gasglu gwybodaeth am eich rhyngweithio gyda’n gwefan. Ni fydd gwybodaeth a gesglir drwy ddefnyddio cookies yn cael ei defnyddio i’ch adnabod mewn unrhyw fodd o dan unrhyw amgylchiadau.

Ffeiliau testun yw cookies, a ddefnyddir gan borwr eich cyfrifiadur, sy’n storio data am sesiynau ymwelwyr. Nid yw cookies, ynddynt eu hunain, yn nodi pwy yw’r defnyddiwr unigol. Defnyddir cookies yn gyffredin ar y Rhyngrwyd ac nid ydynt yn niweidio’ch system.

Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio cookies ar ein system archebu. Nid yw Oakwood byth yn storio unrhyw wybodaeth bersonol mewn cookies (ar unrhyw gyfrifiadur y gallech ei ddefnyddio) sy’n caniatáu eich adnabod, megis eich enw neu rif eich cyfrif.

Os nad ydych am i ni ddefnyddio cookies pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, efallai y byddwch yn medru gosod eich porwr fel ei fod yn gwrthod eu derbyn. Cyfeiriwch at gyfleuster ‘help’ eich porwr am ragor o wybodaeth. Noder, os gwelwch yn dda, y gall gosod eich porwr i wrthod cookies eich atal rhag manteisio’n llawn ar y cyfleusterau a gynigir ar ein gwefan.

Data Ystadegol

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth ddienw rydym yn ei chasglu drwy’r cookies a thrwy ein pecyn i ddadansoddi sut rydych yn defnyddio’n gwefan er mwyn ein helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae ein gwefan a’n marchnata’n perfformio ac yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Eich hawliau

Mae hawl gennych i ofyn am fanylion yr wybodaeth sydd gennym amdanoch o dalu ffi fechan, ac i ddiweddaru’r wybodaeth honno ar unrhyw adeg. Os hoffech gyflwyno cais o’r fath, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar ddechrau’r ddogfen hon.

Newidiadau i’r polisi hwn

Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi hwn yn cael eu diweddaru yma cyn gynted â phosib. Rydym yn argymell eich bod yn bwrw golwg ar y polisi preifatrwydd bob tro y byddwch yn ymweld â’r wefan neu yn ei defnyddio.



Order confirmation
Oakwood Theme Park is proud to be part of the Aspro Group