cysylltwch gyda ni

BETH SY MLAEN

MATT THE MAGIC MAN

Rhannwch Funudau Hud Matt

Fyddwch chi ddim yn coelio’ch llygaid wrth weld Matt y Dyn Hud yn perfformio’i swyn cyfareddol, heb sôn am ei sgiliau syrcas rhyfeddol.

Ymunwch ag ef bob dydd yn y Ffatri Hud i weld ei sioe swyn anhygoel. Dysgwch gan y meistr yn ei weithdy sgiliau syrcas, a gwyliwch ef yn dod â Punch a Judy’n fyw mewn sioe newydd ddoniol dros ben.

Chwiliwch amdano yn y parc hefyd – efallai bydd ar frig rhyw goeden ar ei stiltiau neu’n plygu balwnau i greu siapau anhygoel, yn arbennig i chi.

Un funud bydd i’w weld, yr eiliad nesaf bydd wedi diflannu!

Mae Matt yn diflannu bob dydd Llun a dydd Mawrth i orffwys ei Ffon Hud, ond bydd yn ailymddangos yn y Ffatri Hud o ddydd Mercher i ddydd Sul.

AMSERAU’R SIOEAU Y PRIF DYMOR AR ÔL IDDI DYWYLLU

Sioeau Hud
11.30am a 3.30 pm
Punch & Judy
2.45pm
Gweithdy Sgiliau Syrcas
1.40pm

Gwelais i Matt y Dyn Hud y llynedd, ac roedd fy mab pum mlwydd oed wrth ei fodd. Roedd rhaid i ni ddod nôl ar ddiwrnod pan fyddai e yma, er mwyn ei weld. Ardderchog!

Sandra McCarthy
SWYDD CORC Iwerddon

AR ÔL IDDI DYWYLLU

Mae’r hwyl yn dechrau wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben!

O ddydd Gwener 1 Awst tan ddydd Sul 31 Awst 2008, bydd Oakwood ar agor ar ôl iddi dywyllu ar gyfer sioe haf ysgubol, bob noson o'r bron! Ymunwch â ni i brofi gwefr ein reidiau byd-enwog yn y nos. Cewch hefyd gyfle i brofi adloniant teuluol o’r radd flaenaf, y tu allan ac o dan do. Cewch wefr wrth i’r parti gyrraedd ei anterth ar y llwyfan awyr agored, gyda’n ffynhonnell ddwr hudol a’r arddangosfa oleuadau. Ar ôl y sioe, byddwn yn goleuo’r nos â thân gwyllt ysblennydd: diweddglo perffaith ar gyfer noson wych. Mae nosweithiau Ar ôl iddi Dywyllu am ddim gyda’ch tocyn mynediad i Oakwood. NEU gallwch ymuno â ni gyda’r hwyr o 5.30pm ymlaen am £10 y pen yn unig.

AR ÔL IDDI DYWYLLU BOB DYDD YM MIS AWST
DEWCH I BROFI REIDIAU OAKWOOD YN Y NOS
SIOEAU BYW, AC ADLONIANT GWYCH

Roedd y sioe Ar ôl iddi Dywyllu’n dda dros ben, ac yn gymaint o ymdrech fel bod y dawnswyr wedi ei fwynhau lawn cymaint â ni. Roedd y tân gwyllt yn wych, felly gallaf eich sicrhau ei bod yn noson ardderchog

Ms P Jones
CASTELL-NEDD
Gorllewin Morgannwg