cysylltwch gyda ni

cynllunio'ch ymweliad

Rydym am sicrhau eich bod yn cael y diwrnod gorau erioed o hwyl yn Oakwood.

Felly yma fe gewch hyd i bopeth bydd ei angen arnoch i gynllunio’ch ymweliad perffaith, o ddod o hyd i’r parc, amserau agor a phrisiau, mwynhau’r daith yma, ble i fwyta, beth i’w weld ac ydy’r ci’n gallu dod hefyd. (Ydy, wir!)

Amserau Agor a Phrisiau

Amserau Agor yn 2008

Mae Oakwood ar agor rhwng 20ain Mawrth a 28ain Medi 2008
Yr amserau agor arferol yw 10am tan 5pm.

Mae ‘Ar ôl iddi Dywyllu’ ar gael o’r 1af i’r 31ain Awst 2008 a phryd hynny bydd y parc ar agor o 10am tan 10pm

Ffoniwch 01834 861889 i wirio’r oriau agor yn ystod yr wythnos y tu allan i wyliau’r ysgol.

Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd llawer iawn o dripiau ysgol yn dod i Oakwood rhwng y 9fed a’r 20fed o Orffennaf 2008.

Prisiau 2008

Talwch wrth y fynedfa, a bydd yr holl reidiau am ddim!*

Tocyn Safonol (10 oed +)
Tocyn Iau (3-9 oed)
Plant o dan 2 (AM DDIM)
Pensiynwyr
Pobl Anabl **
Coetsis a grwpiau*** o fwy nag 20 o bobl (pris y pen)

Tocyn Teulu i Bedwar gyda Gostyngiad (cyfle i arbed hyd at £6)
Tocyn Teulu i Chwech gyda Gostyngiad (cyfle i arbed hyd at £11.50)
Ar ôl iddi Dywyllu (Gostyngiad ar ôl 5.30pm)

* Mae’r prisiau a nodir yn cynnwys yr holl reidiau ac eithrio Vertigo, Nenroliwr (Skycoaster) Oakwood, lle codir tâl ychwanegol o £33 yr hediad - £11.00 y person (3 yn rhannu), £16.50 y person (2 yn rhannu) neu £33.00 i fynd ar eich pen eich hun.

**Yn unol â’r cyngor a gawsom gan Gomisiwn Hawliau’r Anabl, byddwn yn caniatáu i unigolion ag anabledd ddod ag un gofalwr gyda nhw yn ddi-dâl os teimlwn fod angen iddynt wneud hynny i gael mynediad llawn i’n gwasanaeth. Consesiwn gwirfoddol yw hwn, a gallwn ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. ***Rhaid talu am holl aelodau grwpiau ar yr un pryd, gydag un taliad.

Bwyta

Mae gennym ni chwe dewis blasus o fwyd am bris rhesymol, fel bod rhywbeth at ddant pawb. Ac ar ben hynny mae siop losin a siop hufen iâ i sicrhau danteithion melys a fydd yn eich plesio.

Y Bwyty
Pysgod a sglodion, tatws trwy’u crwyn, pasta wedi’i bobi, pasteiod, salad a phrydau plant, gan gynnwys bagiau ffrwythau iach.

Woody’s Burger Bar
Cig eidion wedi grilio dros fflam, ffiled ffowlyn, byrgers llysiau a chwn poeth.

Dixie’s Chicken Diner
Cyw iar wedi’i ffrïo; coesau cywion, popiau, tameidiau mewn cytew a stripiau ffiled.

Smugglers Island
Ynys drwyddedig y Môr Ladron, gyda dewis o gig eidion ar y radell, ffyn ffowlyn neu asennau barbeciw ar ddail cymysg, gyda sglodion latis a choleslaw os hoffech rywbeth iachach.

Acorn Tea Rooms
Te hufen, brechdanau, fflapjacs, teisennod, paninis twym a bagiau ffrwythau iach.

Pit Stop
Baguettes cig moch, cwn poeth a chwn tshili

Candy Store
Toesennau, Fanta Freeze, candi fflos a phopcorn

Hufen Iâ
Hufen iâ cynnyrch llaeth traddodiadol a meddal, a detholiad o lolis.

Siopa

Ewch â blas ar Oakwood adre gyda chi, fel bod holl hwyl y diwrnod yn parhau am gyfnod hwy. Gydag anrhegion a chofroddion, nwyddau’r reidiau a ffotograffau, mae digon o ddewis i chi.

Parcio

Mae parcio am ddim, drwy’r dydd, bob dydd. Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i le, ac ar yr adegau prysuraf, er nad ydym am ffarwelio â chi, byddwn ni hyd yn oed yn eich helpu i adael!

Cyfarwyddiadau

Mae’n hawdd dod o hyd i ni yn y car, gan fod arwyddion brown clir yn cyfeirio twristiaid i Oakwood o Gyffordd 49 yr M4 a ledled Sir Benfro. Gallwch ddod o hyd i ni oddi ar yr A40 yn Canaston Bridge, 8 milltir i’r Dwyrain o Hwlffordd. 

Babanod a Phlant Bach

Bydd eich plantos yn dwlu ar Oakwood hefyd! Mae gennym ni gyfleusterau newid cewynnau a chynhesu poteli, yn ogystal â mannau chwarae meddal llachar iddyn nhw eu harchwilio.

Gadael Bagiau

Fyddwch chi dim am orfod cario bagiau a chotiau pan fo angen cadw’ch dwylo’n rhydd i gael hwyl. Am dâl bychan iawn gallwch adael eich bagiau, eich cotiau ac unrhyw bethau gwerthfawr yn niogelwch ardal Gadael Bagiau'r Siop Whistlestop.

Peiriannau Arian

Mae peiriant arian ar gael yn yr ardal Croesawu Ymwelwyr, ond gan fod yr holl reidiau am ddim ar ôl i chi ddod mewn i’r parc, byddwch chi’n rhyfeddu cyn lleied mae’n rhaid i chi ei wario. Mae ein siopau, ein bwytai a’r fynedfa’n derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd (heblaw am American Express)

Cwn

Gwaetha’r modd, allwn ni ddim caniatáu cwn yn y parc, ond byddwn ni’n eu cadw’n ddiogel ac yn hapus yn ein cytiau arbennig nes i chi ddychwelyd. Cofiwch ddod â gwely neu flanced, dwr a phowlen ar gyfer eich ci.

Caniateir cwn tywys yn y parc.

Ystafelloedd Newid

Os ydych chi’n mynd i gael diwrnod gwych yn Oakwood, fe fyddwch chi’n mynd yn wlyb. Dewch â dillad sych gyda chi, a’u cadw yn ein cyfleusterau gadael bagiau. Unwaith byddwch chi wedi blino ar Hydro, gallwch gynhesu a sychu yn ein hystafelloedd newid.

Ymwelwyr Anabl

Rydym yn sicrhau na fydd eich anabledd yn eich rhwystro rhag mwynhau Oakwood, drwy ddarparu parcio, toiledau a mynediad ar wahân i’r reidiau ar gyfer pobl anabl.

Llety

Os hoffech aros yn hwy, mae amrywiaeth eang o lety ar gael yn Sir Benfro, yn ogystal â golygfeydd ysgubol. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.visitpembrokeshire.com